P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Iraj Irfan, ar ôl casglu cyfanswm o 2,231 llofnod - 2,209 o lofnodion ar-lein, a 22 o lofnodion ar bapur mewn deiseb amgen.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog Llywodraeth Cymru i gadw gwasanaethau crefyddol yn ysgolion gwladol Cymru fel rhai ‘optio allan’ ac ‘‘o natur Gristnogol fras yn gyfan gwbl neu’n bennaf’’, gan ystyried ffyrdd o sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol i bobl sydd o grefydd wahanol a’r rhai sydd heb grefydd o gwbl.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Caerdydd
· Canol De Cymru